Telerau ac Amodau

Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rydych yn cytuno i’r telerau defnydd hyn. Mae hyn yn cynnwys y polisi preifatrwydd.

Pwy ydym ni

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei reoli gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi.

Dylech wirio’r telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Efallai y byddwn yn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar ôl i’r telerau ac amodau gael eu newid, ystyrir eich bod wedi cytuno i’r newidiadau.

Gwybodaeth a ddarperir gan y gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth i gefnogi eich cais. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ar achosion unigol.

Dylech ateb y cwestiynau yn y gwasanaeth yn seiliedig ar eich amgylchiadau a cheisio cyngor cyfreithiol os oes arnoch angen hynny.

Rhannu a storio data

Mae ein polisi preifatrwyddyn egluro lle mae’ch data yn cael ei storio a gyda phwy mae’n cael ei rannu.

Mae ein polisi cwcis yn egluro sut mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio ac yn storio cwcis.

Deddfau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwn

Bydd y defnydd a wnewch o’r gwasanaeth hwn ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’i ddefnyddio yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
  • Deddf Diogelu Data 1998 (hyd at 25 Mai 2018)
  • Deddf Diogelu Data 2018 (o 25 Mai 2018)
  • Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn gyfrifol

Mae peryglon yn gysylltiedig â defnyddio cyfrifiadur sy’n cael ei rannu (er enghraifft, mewn llyfrgell) i gael mynediad at y gwasanaeth hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o’r peryglon hyn ac osgoi defnyddio unrhyw gyfrifiadur lle mae posibilrwydd y gall eraill weld eich gwybodaeth bersonol. Chi sy’n gyfrifol os ydych chi’n dewis gadael cyfrifiadur heb ei ddiogelu tra rydych wedi mewngofnodi i’r gwasanaeth hwn.

Mae’n rhaid i chi gymryd camau priodol eich hun i sicrhau nad yw’r ffordd rydych yn cael mynediad at y gwasanaeth hwn yn eich gadael yn agored i’r perygl o:

  • firysau
  • cod cyfrifiadur maleisus
  • neu niwed o fath arall a allai achosi difrod i’ch system gyfrifiadurol

Ni ddylech gamddefnyddio’r gwasanaeth hwn drwy gyflwyno’n fwriadol firysau, cnafon (trojans), mwydod (worms), bomiau rhesymeg (logic bombs) neu unrhyw ddeunydd arall maleisus neu sy’n niweidiol i dechnoleg. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod at y gwasanaeth hwn, y system lle caiff ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth. Ni ddylech ymosod ar y wefan hon drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth a ddosbarthwyd.

Nodi gwybodaeth bersonol sensitif

Mae’r gwasanaeth ar-lein hwn yn cynnwys nifer o feysydd testun rhydd lle’ch gwahoddir i nodi gwybodaeth bersonol sensitif.

Os byddwch yn rhoi gwybodaeth am eich:

  • cyfeiriadedd rhywiol neu’ch bywyd rhywiol
  • tarddiad hiliol neu’ch tarddiad ethnig
  • barnau gwleidyddol
  • credoau crefyddol neu’ch credoau athronyddol
  • aelodaeth undeb llafur
  • data genetig neu ddata biometrig
  • gwybodaeth am eich iechyd

Rydych yn rhoi caniatâd inni brosesu’r wybodaeth hon er mwyn inni allu ymdrin â’ch cais.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn casglu a storio eich data personol, gweler y polisi preifatrwyddy.

Ymwrthodiad

Er ein bod yn ymdrechu i gadw GOV.UK yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau, amodau neu sicrwydd bod yr wybodaeth:

  • yn gyfredol
  • yn ddiogel
  • yn gywir
  • yn gyflawn
  • yn rhydd o fygiau neu feirysau

Nid ydym yn cyhoeddi cyngor ar GOV.UK. Dylech gael cyngor proffesiynol neu gyngor arbenigol cyn gwneud unrhyw beth yn seiliedig ar y wybodaeth yn y gwasanaeth.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o ddefnyddio GOV.UK. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd gan gamweddau sifil (‘tort’, yn cynnwys esgeuluster), torri amodau contract neu fel arall
  • defnyddio GOV.UK ac unrhyw wefannau sydd â dolenni i neu o’r wefan
  • methu â defnyddio GOV.UK ac unrhyw wefannau sydd â dolenni i neu o’r wefan

Mae hyn yn berthnasol os oedd y golled neu’r difrod yn rhagweladwy, wedi codi wrth i’r broses arferol fynd rhagddo, neu os oeddech wedi ein cynghori y gallai ddigwydd.

Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig) i golli eich:

  • incwm neu refeniw
  • cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractau
  • cyfleoedd
  • cynilion a ragwelwyd
  • data
  • ewyllys da neu’ch enw da
  • eiddo anniriaethol, yn cynnwys colled, llygredd neu ddifrod o ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • gwastraff o amser rheolwyr neu amser swyddfa

Efallai y byddwn yn parhau i fod yn atebol am:

  • farwolaeth neu anaf personol sy’n codi o’n hesgeuluster
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu dan y gyfraith berthnasol

Cysylltu â ni

Rhif ffôn: 0300 303 0654

Dydd Llun i ddydd Iau, 9am – 5pm, dydd Gwener, 9am – 4.30pm.

Gwybodaeth am brisiau galwadau (agor mewn ffenestr newydd)