Gwneud cais am brofiant

Mae profiant yn rhoi hawl gyfreithiol ichi ddelio ag eiddo ac arian (ystad) unigolyn ar ôl iddynt farw.

Mae angen ichi gwblhau’ch cais ar-lein ac yna anfon eich dogfennau i’r gofrestrfa brofiant. Byddwn yn dweud wrthych beth sydd angen ichi ei anfon pan fyddwch wedi cwblhau eich cais.

Gallwch wneud cais yn Gymraeg drwy’r post. Defnyddiwch ffurflen PA1P (agor mewn ffenestr newydd) os gadawodd yr unigolyn sydd wedi marw ewyllys, a ffurflen PA1A (agor mewn ffenestr newydd) os nad oes ewyllys.

Os oes mwy nag un person yn gwneud cais

Gall hyd at 4 person wneud cais am brofiant.

Bydd angen i bawb sy’n gwneud cais gytuno â’r datganiad cyfreithiol a bydd eu henwau yn ymddangos ar y grant profiant.

Mae’n rhaid bod gan bawb sy’n gwneud cais eu cyfeiriad e-bost eu hunain. Mae hyn oherwydd ni allwn drafod y manylion gyda neb heblaw’r bobl sydd wedi’u henwi yn y cais.

Byddant hefyd angen ffôn symudol a mynediad i’r rhyngrwyd.

Ffioedd

Mae’n costio £273 i wneud cais am brofiant os yw gwerth yr ystad yn fwy na £5,000. Mae am ddim os yw gwerth yr ystad yn llai.

Mae copïau ychwanegol o’r grant profiant yn costio £1.50 yr un.

Bydd angen ichi dalu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

Os oes gennych adborth

Rydym yn datblygu’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd. Os ydych yn dod ar draws rhywbeth nad yw’n gweithio fel y dylai, gallwch ddefnyddio’r ddolen ‘adborth’ sydd ar frig y dudalen.

Dychwelyd i gais presennol