Atal cais am brofiant
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i atal cais am grant cynrychiolaeth am hyd at 6 mis. Gelwir hyn hefyd yn ‘cofnodi cafeat’.
Cynrychiolwyr cyfreithiol
Os ydych chi'n gynrychiolydd cyfreithiol gyda chyfrif MyHMCTS yn gwneud cais ar ran rhywun arall, defnyddiwch y gwasanaeth hwn (agor mewn ffenestr newydd).
Os ydych chi'n gynrychiolydd cyfreithiol heb gyfrif MyHMCTS, cofrestrwch gyda MyHMCTS (agor mewn ffenestr newydd) cyn i chi wneud cais ar-lein.
Ceiswyr personol
Efallai yr hoffech atal cais:
- os ydych yn credu bod rhywun wedi dylanwadu ar yr unigolyn a wnaeth yr ewyllys neu nid oeddynt yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain
- os ydych yn credu bod rhywun wedi ymyrryd â’r ewyllys neu wedi ei ffugio
- os oes ewyllys fwy diweddar
- os na chafodd yr ewyllys ei llofnodi neu ei thystio’n iawn
- os yw’r unigolyn sy’n gwneud cais am brofiant yn gwrthod rhannu copi o’r ewyllys gyda chi
- os ydych mewn anghydfod â’r unigolyn sy’n gwneud cais am brofiant neu os ydych yn credu nad yw’r unigolyn yn addas i gyflawni cyfarwyddiadau’r ewyllys
- os ydych yn credu nad yw’r unigolyn sy’n gwneud y cais yn gymwys i wneud hynny os nad oes ewyllys (gweler pwy sy’n etifeddu os nad oes ewyllys (agor mewn ffenestr newydd))
- os ydych â hawl i wneud cais ond nad ydych wedi’ch cynnwys yn y cais
- os bu i’r unigolyn a fu farw briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil ar ôl i’r ewyllys gael ei harwyddo
Dyma’r rhesymau mwyaf cyffredinol, ond gall fod rhesymau eraill hefyd.
Dylech bob amser geisio dod i gytundeb gyda’r unigolyn sy’n gwneud y cais am brofiant cyn ichi atal eu cais.
Efallai yr hoffech siarad â chyfreithiwr neu gysylltu â chanolfan Cyngor ar Bopeth i gael cyngor cyfreithiol.
Mae’n cymryd un diwrnod gwaith i brosesu eich cais i atal cais am brofiant.
Os caiff cais am brofiant ei gymeradwyo ar yr un diwrnod ag yr ydych yn gwneud y cais, ni fydd yn cael ei atal. Ond byddwch yn atal unrhyw geisiadau am brofiant rhag cael eu gwneud ynghylch yr ystad am 6 mis.
Byddwch angen:
- cyfeiriad yng Nghymru neu Lloegr lle gellir anfon papurau cyfreithiol iddo
- enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw (ac unrhyw enwau eraill yr oeddynt yn cael eu hadnabod wrthynt)
- union ddyddiad y farwolaeth
Ffioedd
Mae’n costio £3 i atal cais am 6 mis.
Bydd angen ichi dalu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.