Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth ‘Gwneud cais am brofiant’

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar https://www.gov.uk/gwneud-cais-am-brofiant/gwneud-cais-am-brofiant

Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi defnyddwyr i wneud cais am grant cynrychiolaeth ar-lein (a elwir hefyd yn profiant).

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF sy’n gyfrifol am y wefan hon, Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon, felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor hygyrch â phosibl. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau
  • gwneud y testun hyd at 300% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
  • mynd drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.

Mae gan AbilityNet (agor mewn ffenestr newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddwn nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw canlyniadau’r cyfleuster chwilio am gyfeiriad yn chwyddo ar rai tabledi. Mae hyn yn gyfyngiad o fewn porwyr rhai tabledi.
  • Mae problemau hygyrchedd yn parhau y tu allan i’r gwasanaeth hwn, yng ngwasanaeth taliadau’r llywodraeth, a allai arwain at ddefnyddwyr technoleg hygyrch yn cael anawsterau gyda defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen neu Braille:

  • anfonwch e-bost i:HMCTSforms@justice.gov.uk
  • ffoniwch: 0300 303 0654
    Dydd Llun i ddydd Iau, 9am – 5pm, dydd Gwener, 9am – 4.30pm.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Riportio problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd:

  • anfonwch e-bost i HMCTSforms@justice.gov.uk neu ffoniwch:
  • Llinell Gymorth Profiant:
    0300 303 0654
    Dydd Llun i ddydd Iau, 9am – 5pm, dydd Gwener, 9am – 4.30pm.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (yn agor mewn ffenest newydd).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer.

Gwybodaeth am sut i i gysylltu â ni:

  • E-bost HMCTSforms@justice.gov.uk neu ffoniwch:
  • Llinell Gymorth Profiant:
    0300 303 0654
    Dydd Llun i ddydd Iau, 9am – 5pm, dydd Gwener, 9am – 4.30pm.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae GLlTEF wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (yn agor mewn ffenestr newydd), a hynny oherwydd yr enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol. Nid ydym wedi gallu gwirio ein bod yn llwyr gydymffurfio yn y meysydd canlynol, a hynny oherwydd cyfyngiadau gyda’n adnoddau profi mewnol:

  • Nid yw canlyniadau’r cyfleuster chwilio am gyfeiriad yn chwyddo ar rai tabledi. Mae hyn yn gyfyngiad o fewn porwyr rhai tabledi.
    • Efallai ni fydd hyn yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.4.4 (Newid Maint Testun). Rydym yn bwriadu datrys y broblem hon erbyn Medi 2023
  • Mae 4 problem yn parhau y tu allan i’r gwasanaeth hwn, yng ngwasanaeth taliadau’r llywodraeth, na fydd efallai’n bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 - 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd), 1.3.2 (Dilyniant Ystyrlon), 1.4.4 (Newid Maint Testun) a 2.4.1 (Blociau Osgoi)

Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae’n bosib na fydd dogfennau PDF, dogfennau eraill ac atodiadau mewn negeseuon e-bost a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 yn cydymffurfio â’r safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrîn.

Cynnwys trydydd parti sydd dan reolaeth rhywun arall

Efallai na fydd tudalennau a gwefannau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth profiant yn gwbl hygyrch. Mae’r rhain yn cynnwys:

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Rydym yn cynnal profion hygyrchedd yn rheolaidd fel rhan o’n arferion datblygu ac yn datrys unrhyw broblemau cyn i wefannau a swyddogaethau newydd gael eu rhyddhau. Rydym yn defnyddio Pa11y ac Axe gyda’n prosesau sicrhau ansawdd. Mae’r wefan yn cael ei phrofi’n barhaus gan ddefnyddio meddalwedd hygyrchedd. Bydd unrhyw nodweddion newydd a fydd yn cael eu cyflwyno hefyd yn cael eu profi’n fewnol neu gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 7 Chwefror 2023. Cafodd ei ddiweddaru diwethaf ar 10 Chwefror 2023.

Cafodd y wefan ‘Gwneud cais am brofiant’ hon ei phrofi diwethaf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) ym mis Hydref 2019.